Mae'r ddeiseb wedi cau a chafodd ei chlywed gan y pwyllgor deisebau. Cytunodd y pwyllgor y dylai dadl ddigwydd ond nid yw’r dyddiad wedi’i gyhoeddi ar hyn o bryd.
Mae CNC wedi cyhoeddi cynlluniau i gau canolfannau ymwelwyr ym Mwlch Nant yr Arian, Ynyslas a Choed y Brenin. Mae'r canolfannau hyn yn rhan bwysig o brofiad yr ymwelydd ac i lawer o bobl, maen nhw’n helpu i gefnogi eu gallu i gael mynediad i'r awyr agored er mwyn gwella eu hiechyd corfforol a meddyliol. Os bydd y canolfannau'n cau bydd ein cymunedau lleol yn dioddef. Mae CNC wedi gweld toriadau ariannol mawr yn y blynyddoedd diwethaf ac yn awr yn gorfod arbed miliynau o bunnoedd drwy dorri 265 o swyddi.
Mae’n bosibl y bydd canolfannau ymwelwyr yn cau erbyn mis Hydref 2024 ac os byddan nhw’n gwneud hynny, byddan nhw fod yn anodd eu hailagor.
Ymunwch â ni i ddweud bod y canolfannau hyn yn bwysig i'n cymuned y mae angen eu cadw ar agor. Dywedwch wrth CNC fod yn rhaid iddyn nhw ddod o hyd i ffordd o ddarparu parhad gwasanaethau ar y safleoedd.
Tudalennau ymgyrchu:
Coed y Brenin (Caru Coed y Brenin) FACEBOOK
Uchod: Arwyddfwrdd map gwreiddiol o ddyddiau cynnar canolfan llwybr Nant yr Arian.